Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
30 Ionawr 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.
(20 munud)
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ymateb i adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i ymdriniaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg â honiadau a wnaeth cleifion ag anawsterau dysgu ynghylch ymosodiadau rhyw yn erbyn gweithiwr gofal?
Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Rhun Ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn dilyn penderfyniad REHAU Ltd. i ymgynghori ar ddyfodol ei ffatri yn Amlwch?
(5 munud)
NNDM6956 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r eitem fusnes nesaf gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 30 Ionawr 2019.
NNDM6955 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12 – Cwestiynau Llafar y Cynulliad i'r Cwnsler Cyffredinol’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ionawr 2019; a
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 12, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
(60 munud)
NDM6948 Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Systemau Gwybodeg GIG Cymru - a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2018.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2018
(60 munud)
NDM6949 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru: Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau.
2. Yn mynegi pryder am ganfyddiadau’r adroddiad mai yng Nghymru y mae’r raddfa garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop, a bod dedfrydau llymach yng Nghymru yn cael effaith anghymesur ar fenywod, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a chymunedau difreintiedig.
3. Yn nodi gwaith ymchwil blaenorol gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru sydd wedi datgelu problemau helaeth o ran diogelwch a lles yng ngharchardai Cymru, gan gynnwys graddau cynyddol o gamddefnyddio sylweddau, hunan-niweidio, trais a hunanladdiad.
4. Yn nodi bod nifer o droseddwyr ifanc o Gymru yn treulio amser eu dedfryd mewn carchardai yn Lloegr, a bod y carchar yn cael effaith negyddol sylweddol ar gyfleoedd bywyd pobl ifanc yn y dyfodol.
5. Yn galw am:
a) datganoli cyfiawnder troseddol yn gyfan gwbl i Gymru;
b) diystyru adeiladu rhagor o ‘Uwch garchardai’ ar unrhyw safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfleu’r gwrthwynebiad hwn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder;
c) ailuno'r gwasanaeth prawf yn gyfan gwbl a rhoi diwedd ar breifateiddio rhannol;
d) ffocws ar ddulliau cymunedol ar gyfer troseddau nad ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i or-ddefnyddio dedfrydau carcharu byr;
e) rhoi diwedd ar ddedfrydau o garchar i bobl ifanc a menywod ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol;
f) yr hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau Cymru.
Canolfan Llywodraethiant Cymru - Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau (Saesneg yn unig)
Canolfan Llywodraethiant Cymru - Carcharu yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau (Saesneg yn unig)
Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin: Tystiolaeth Atodol - Dr Robert Jones, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Medi 2018 (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, Dedfrydu a Dalfa, Carcharu yng Nghymru a thystiolaeth atodol i'r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig.
2. Yn nodi ymhellach bod 11 y cant o gyfanswm poblogaeth carchardai Cymru a Lloegr, yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ym mis Hydref 2018, yn wladolion tramor, a'r mwyaf cyffredin yn dod o Wlad Pwyl, Albania, Iwerddon a Rwmania.
3. Yn credu:
a) y dylid ariannu gwasanaeth y carchardai yn ddigonol a rhoi tâl digonol i swyddogion carchardai;
b) y dylai pob carcharor a gaiff ei gadw yn y ddalfa gan swyddogion y Goron fod yn atebol i Weinidogion Llywodraeth y DU ac nid cwmnïau preifat;
c) y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i wyrdroi preifateiddio'r system garchardai;
d) y dylai troseddwyr o dramor gael eu halltudio i fwrw eu dedfryd yn eu gwledydd eu hunain, ac y dylai troseddwyr o'r fath gael eu gwahardd rhag dychwelyd i'r DU;
e) y dylai carchardai newydd gael eu hadeiladu fel y bo angen ledled y DU i ddarparu ar gyfer nifer y bobl a gaiff eu dyfarnu'n euog o droseddau sy'n dwyn cosb o garchar.
Bwletin Ystadegau Rheoli Troseddwyr, Cymru a Lloegr (Saesneg yn unig)
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi ffocws gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau aildroseddu.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu gwaith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac yn edrych ymlaen at ei argymhellion ynglŷn â’r cyfrifoldeb am blismona a chyfiawnder yng Nghymru yn y dyfodol.
Yn galw am:
a) diystyru adeiladu rhagor o ‘uwch garchardai’ ar unrhyw safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfleu’r gwrthwynebiad hwn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder;
b) ailuno'r gwasanaeth prawf yn gyfan gwbl a rhoi diwedd ar breifateiddio rhannol;
c) ffocws ar ddulliau cymunedol ar gyfer troseddau nad ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i or-ddefnyddio dedfrydau carcharu byr;
d) rhoi diwedd ar ddedfrydau o garchar i bobl ifanc a menywod ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol; ac
e) yr hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau Cymru.
(60 munud)
NNDM6958 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn condemnio Llywodraeth y DU am fethu â chynnal negodiadau ystyrlon ynghylch y cytundeb i ymadael â'r UE ar sail drawsbleidiol ac yn nhermau trafodaethau diffuant â'r gweinyddiaethau datganoledig.
2. Yn pwysleisio unwaith eto y byddai ymadael heb gytundeb yn drychinebus i Gymru ac y dylai Llywodraeth a Senedd y DU wneud popeth o fewn eu grym i atal sefyllfa o ymadael heb gytundeb, gan gynnwys gofyn am ymestyn dyddiad ymadael Erthygl 50.
3. Yn credu os, fel yr ymddengys ar hyn o bryd, nad oes modd i Senedd y DU uno i gefnogi cynnig gwahanol sy'n cynnwys cymryd rhan yn y farchnad sengl ac mewn undeb tollau, yna'r unig opsiwn sydd ar ôl yw dychwelyd y penderfyniad at y bobl; ac yn credu y dylid dechrau gweithio ar unwaith i baratoi am bleidlais gyhoeddus.
4. Yn credu y dylai Senedd y DU fynd ati, ar unwaith, i drafod mwy gyda'r gweinyddiaethau datganoledig am y materion hyn.
Cyd-gyflwynwyr
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod safbwynt bresennol Llywodraeth y DU o ran ymadael â'r UE yn negyddu canlyniad y refferendwm yn sylweddol, gan gadw'r DU yn yr undeb tollau am gyfnod amhenodol ac, i bob pwrpas, yn y farchnad sengl, gan ein hamddifadu o unrhyw lais ffurfiol neu bleidlais ym mhenderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dynnu ei safbwynt yn ôl o ran yr hyn â nodir yn "Diogelu Dyfodol Cymru," a ysgrifennwyd ar y cyd â Phlaid Cymru, gan fod hyn hefyd yn anwybyddu ewyllys pobl y DU, a Chymru, a bleidleisiodd yn bendant i adael yr Undeb Ewropeaidd.
3. Yn cymeradwyo ymadael â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, heb unrhyw estyniad i Erthygl 50, ac o dan delerau Sefydliad Masnach y byd.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i achub ar y cyfle i adfer sofraniaeth genedlaethol Prydain y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i dderbyn ein bod yn gadael yr UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd ar 29 Mawrth 2019, ac i ganolbwyntio pob ymdrech, bellach, ar baratoi at y canlyniad hwn.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso dirprwyaeth seneddol i gael ei hanfon ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gwrdd â chynrychiolwyr seneddol a chynrychiolwyr y llywodraeth yn San Steffan i gyflwyno'r achos dros Gymru fel y nodir yn y cynnig hwn.
(30 munud)
NDM6951 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)
Newid lluniau, niweidio bywydau.
A yw bywyd ar-lein ac mewn diwylliant poblogaidd yn niweidio ein realaet
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 5 Chwefror 2019